Bywyd newydd i Irena yn 85 oed
driniaeth yn gynt, ond mewn rhyw ffordd rwy’n falch fy mod wedi aros gan na fyddai’r dechnoleg wedi bod yno cyn heddiw. Ar ôl i mi sylweddoli pa mor anhygoel ydoedd mi wnes i aros chwe mis a mynd yn ôl i gael y pen-glin arall wedi ei wneud.
“Roedd yr ail un yn wirioneddol anhygoel. Rwyf wedi gwella digon i yrru a hynny ar ôl pedair wythnos a doedd dim hyd yn oed angen i mi gymryd lladdwyr poen.”
Mae Mr Ganapathi wedi bod yn ymgynghorydd yn Ysbyty Spire Iâl ers 2010, gan gwblhau ei hyfforddiant orthopedig uwch arbenigol yng Nghymru cyn gwneud hyfforddiant uwch pellach yng Nghanada. Mae ei waith GIG yn Ysbyty Gwynedd.
Mae bellach yn arwain y maes o ran defnyddio cymalau newydd wedi eu creu ar argraffydd 3D cyfrifiadurol ac mae wedi cyflawni 400 o lawdriniaethau o’r fath ers 2012, un o’r niferoedd mwyaf yn y DU.
Dywedodd Mr Ganapathi, 48 oed: “Mae fel ffuglen wyddonol mewn gwirionedd. Yn hytrach na defnyddio offerynnau llaw traddodiadol sy’n cynnwys elfen o graffu â llygaid yn ystod llawdriniaeth, gallaf gynllunio’r llawdriniaeth cyfan ar fodel cyfrifiadurol 3D o ben-glin y claf. Pan glywais gyntaf am y peth, roeddwn yn eithaf amheus fy hun, ond mae’r canlyniadau wedi bod yn anhygoel.
“Dechreuais wneud hyn i ddechrau am fod y llawdriniaeth yn effeithlon – mae wedi torri’r amser llawfeddygol yn aruthrol sy’n bwysig iawn gan fod gennym restrau aros mor hir yng Nghymru.”
Mae’r ystadegau’n dangos bod cleifion yn hapus iawn gyda’r canlyniadau hefyd, ac mae Mr Ganapathi, sy’n byw ym Mae Colwyn gyda’i wraig a dau o blant, wedi bod i nifer o wledydd ar draws y byd i arddangos y dechneg.
Wrth gyfarfod unwaith eto ag Irena dywedodd ei fod wrth ei fodd gyda’i chynnydd: “Pan welais hi chwech wythnos ar ôl yr ail llawdriniaeth, roedd yn cerdded bron fel arfer ac o gofio ei bod yn 85 oed, mae hi wedi gwella’n rhyfeddol.”