A fydd Rufus yn mentro canu yn iaith y nefoedd?
“Mae edrych ar y rhestrau hir o berfformwyr sydd wedi ymddangos yno yn y gorffennol fel darllen rhestr o oriel anfarwolion y byd cerddorol – mae yna gymaint o enwau mawr a dylanwadol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr.”
Mae’r sêr eraill fydd yn ymddangos yn Llangollen eleni hefyd yn cynnwys y cyfansoddwr byd enwog Burt Bacharach, a fydd yn agor yr ŵyl ar ddydd Llun 6 Gorffennaf, a’r tenor clasurol nodedig Alfie Boe, fydd yn perfformio caneuon o sioeau cerdd a ffilmiau cerddorol ar nos Iau, 9 Gorffennaf.
Yn cloi’r ŵyl ar nos Sul Gorffennaf 12 fydd yr enwog Ali Campbell, llais y band UB40 a werthodd 70 miliwn o recordiau, ac yn ailymuno ag ef ar lwyfan yr eisteddfod fydd dau arall o aelodau gwreiddiol UB40 – yr offerynnwr taro, chwaraewr trwmped a’r canwr Astro a’r chwaraewr bysellfwrdd Mickey.
Mae Rufus wedi cydweithio gyda nifer o brif artistiaid y byd gan gynnwys Elton John, Joni Mitchell, y Pet Shop Boys, Burt Bacharach ac yn fwy diweddar ef oedd cyd-awdur prif gân albwm ddiweddaraf, Robbie Williams Swings Both Ways, gan ganu deuawd gyda Williams ar y gân. Yn 2010 cafodd ei gomisiynu gan Symffoni San Fran- cisco i gyfansoddi a dehongli pump o Sonedau Shakespeare ar ffurf cyfres o bum cân i gerddorfa a llais, ac ers hynny mae’r darnau wedi cael eu perfformio ledled y byd.
Mae Cwmni Opera Canada hefyd wedi comisiynu ei ail opera, a fydd yn ymwneud â bywyd yr Ymerawdwr Rhufeinig Hadrian ac yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Toronto yn hydref 2018.