DYDD SUL YR YMADAWIAD S4C, 9.00
YN dilyn llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol, bydd Yr Ymadawiad, ffilm afaelgar sydd wedi’i hysgrifennu a’i chyd-gynhyrchu gan un o grewyr Y Gwyll/Hinterland, yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar deledu ar S4C nos Sul (13 Awst.)
Mae’r ffilm wedi derbyn canmoliaeth frwd ar ei thaith o amgylch sinemâu y llynedd.
Mae’r ddrama dywyll, felodramatig yn dilyn pâr ifanc ar ffo, Sara ac Iwan (Annes Elwy a Dyfan Dwyfor), sy’n cael damwain car ger ffermdy anghysbell. Maen nhw’n cael eu hachub gan Stanley (Mark Lewis Jones), gŵr rhyfedd ddisgwrs, sy’n mynd â nhw i’w gartref unig. Wrth iddo eu helpu gyda chymysgedd o ewyllys da, addfwynder ac amynedd, mae cyfrinachau tywyll yn cael eu datgelu ac mae’r cyfarfyddiad yn arwain at ganlyniadau annisgwyl i’r tri ohonynt.
Meddai Ed Talfan, sydd wedi ysgrifennu’r sgript yn ogystal â chynhyrchu’r ffilm, “Pan wnes i ddechrau ysgrifennu’r sgript, roedd e’n cylchdroi o gwmpas cymeriad Stanley. Ro’n i’n cael fy nghyfareddu ganddo – mae’n gymeriad tyner, ynysig, sy’n cael ei gamddeall. Ro’n i’n ei weld fel ffigwr trasig ond hardd. Mae Sara ac Iwan yn tarfu ar ei fywyd mewn modd dramatig ond dydy’r gynulleidfa ddim yn darganfod unrhyw beth tan ddiwedd y ffilm. Dwi’n meddwl bod cyfarwyddo bendigedig Gareth Bryn, ei weledigaeth bendant a’i gymhelliad, ynghyd â pherfformiadau gwych gan Mark, Annes a Dyfan yn cyfrannu’n sylweddol at lwyddiant y ffilm.”
Fe enillodd Mark Lewis Jones wobr Actor Gorau gwobrau BAFTA 2016 am ei bortread o Stanley, y ffermwr dirgel.
Meddai Mark a ddaw o Rosllannerchrugog yn wreiddiol, “Pan ges i’r sgript yn y lle cyntaf gan Ed Talfan, ‘nes i syrthio mewn cariad gyda’r holl syniad. Ro’n i wrth fy modd efo’r byd roedd o’n ei greu yn ogystal â’r cymeriad Stanley. Yn syth bin ro’n i wedi gweld cymeriad Stanley fel anifail – fel arth yn byw ar ben ei hun yn y gorffennol mewn ffordd. Trwy’r cymeriad, ro’n i eisiau cyfleu bod ni ddim wir yn gwybod os ydy Stanley’n dda neu beidio, achos mae ganddo’r elfennau anifeilaidd ‘ma ynddo – roedd hwnna’n bwysig i mi.”
Daeth y ddrama yn fuddugol mewn dau gategori arall yng ngwobrau BAFTA 2016, wrth i wobr Awdur Gorau gael ei chyflwyno i Ed Talfan, a’r wobr am y Dyluniad Cynhyrchu gorau i Tim Dickel.
Mae hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn rhyngwladol, wrth gipio Medal Arian y Byd yng Ngŵyl Ryngwladol Teledu a Gwobrau Ffilm a Theledu Efrog Newydd, ac ennill gwobr Drama Sengl yng ngwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Dungarvan yn Iwerddon.
Ffilmiwyd Yr Ymadawiad ar leoliad yn Llanddeusant a Llyn Brianne, Sir Gaerfyrddin. YR YMADAWIAD: S4C, nos Sul 9pm